Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (255)v3 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
3 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) NDM5712 Mick Antoniw (Pontypridd) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod technoleg ar-lein ynghyd â hysbysebu dwys wedi ysgogi twf hapchwarae yng Nghymru ac yn nodi:
a) bod hapchware ar gael i holl boblogaeth Cymru 24/7;
b) y gall hapchwarae ddod yn gaethiwed sy'n niweidiol yn gymdeithasol, gan gyfrannu at dlodi, iechyd a phroblemau cymdeithasol;
c) bod adnabod caethiwed a darparu cymorth yn gynnar yn hanfodol er mwyn atal pobl rhag dod yn gaeth i hapchwarae;
d) bod y twf mewn hapchwarae ar-lein a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog wedi troi hapchwarae yn y DU i mewn i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd; a
e) bod amgylchedd rheoleiddio hapchwarae yn gymharol ysgafn.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu a gweithredu strategaeth i fynd i'r afael â'r canlyniadau cymdeithasol ac iechyd sy'n deillio o hapchwarae;
b) ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu peiriannau hapchwarae; ac
c) ymgysylltu â'r diwydiant hapchwarae a'r Ymddiriedolaeth Hapchwarae Cyfrifol i sicrhau bod cyfran briodol o'r cyllid yn cael ei wario yng Nghymru i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bod yn gaeth i hapchwarae. |
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5728 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r penderfyniad diweddar gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i atal gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaethau clinigol eraill i fenywod yn Ysbyty Glan Clwyd; a
2. Yn galw ar y bwrdd iechyd i sicrhau parhad gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaethau clinigol eraill i fenywod ym mhob un o'r tri o ysbytai cyffredinol dosbarth yng ngogledd Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
2. Yn nodi mai ataliad dros dro yw hwn ac y bydd gwasanaethau o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn cael eu hadfer o fewn 12 mis;
3. Yn nodi y bydd y SuRNICC yn cael ei lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd fel rhan o ddarpariaeth y bwrdd iechyd o wasanaethau mamolaeth yn y Gogledd sy'n glinigol ddiogel ac yn gynaliadwy. |
5 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM5727 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod un ym mhob tri o blant yng Nghymru yn byw o dan y llinell dlodi.
2. Yn nodi bod gan Gymru y lefelau cyrhaeddiad addysgol isaf yn y DU, sy'n cael effaith arbennig o negyddol ar gymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi bod cyfraddau gordewdra ymhlith plant, cyfraddau ysmygu ymhlith menywod ifanc a chyfraddau yfed alcohol ymysg pobl ifanc yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr.
4. Yn nodi bod pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru yn yfed mwy o alcohol bob wythnos nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.
5. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llywodraeth Cymru a fydd yn cynyddu'r Grant Amddifadedd Disgyblion i £1,150 fesul disgybl, yn ymestyn y grant i blant o dan bump oed, ac yn cyflwyno tocynnau rhatach i deithwyr ifanc.
6. Yn credu y dylai pobl gael eu grymuso i fyw'r bywyd y maent am ei fyw ac nad oes lle i laesu dwylo yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i bawb.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddarparu mynediad at y fenter Dechrau'n Deg i bob plentyn yng Nghymru ar sail angen yn hytrach na lleoliad daearyddol;
b) gwella'r system o ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon a sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru;
c) diwygio'r fframwaith Estyn i sicrhau bod mwy o ffocws yn cael ei roi ar addysg a bwyta'n iach ac ymarfer corff mewn ysgolion;
d) yn canolbwyntio mwy o adnoddau ar annog pobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon; ac
e) sicrhau bod pob prentis yn cael hyfforddiant o'r safon uchaf sy'n rhoi cymwysterau cludadwy iddynt.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r cynnydd a ragwelir yn nifer y plant sy'n byw mewn tlodi i 3.4 miliwn ar draws y DU erbyn 2020 ac yn nodi hefyd effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cynnydd mewn lefelau tlodi plant.
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 5.
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Yn is-bwynt 7b), dileu 'sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru' a rhoi yn ei le 'sicrhau ei bod yn symud ymlaen yn effeithlon o'r ddarpariaeth newydd o addysg gychwynnol i athrawon'.
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu isbwynt newydd ar ddiwedd y cynnnig:
sichrau bod ysgolion yn dangos tystiolaeth eu bod yn defnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i helpu disgyblion o gartrefi incwm isel. |
6 Cyfnod pleidleisio |
7 Dadl Fer - Gohiriwyd (30 munud) NDM5726 Leanne Wood (Canol De Cymru):
Darparu difidend datganoli ar gyfer Cymru gyfan
Manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o ddatganoli i wneud yn siŵr bod yr holl wlad yn elwa arnynt. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2015